Croeso i Ysgol Llanllechid

Annwyl rieni/gwarcheidwaid,
Mae'n bleser o'r mwyaf gennyf eich croesawu i safle we Ysgol Llanllechid. 
Mae Ysgol Llanllechid yn ceisio sicrhau'r addysg o’r ansawdd orau bosibl i'n disgyblion mewn awyrgylch hapus a gweithgar.
Sicrheir fod pob unigolyn yn cael ei werthfawrogi fel person unigryw drwy gynnig ystod eang o brofiadau mewn awyrgylch ofalgar a theg.

Cynigir cyfleoedd cyfartal i ddeall a datblygu: 

  1. cwrteisi 
  2. gwerthoedd moesol, ysbrydol a diwylliannol
  3. parch at eraill, beth bynnag fo'u hil, rhyw neu anabledd

Rhoddir cryn bwyslais ar ddatblygu perthynas iach â chwi fel rhieni gan fod eich cymorth a'ch cefnogaeth yn holl bwysig drwy gydol amser eich plentyn yn Ysgol Llanllechid. Fe'ch anogir felly, i ymddiddori yn holl weithgareddau'r ysgol - yn ei gwaith ac yn ei gwahanol weithgareddau yn y gymuned. Mae Ysgol Llanllechid yn weithgar iawn yn y gymuned leol a defnyddir adnoddau'r gymuned hon i gyfoethogi addysg y disgyblion. 
Gyda staff brwdfrydig a gofalgar, gallwn gynnig profiadau addysgol gwerthfawr i'n disgyblion. 

Gwenan Davies Jones

Pennaeth

Person Cyswllt:
Gwenan Davies Jones
e-bost - GwenanDaviesJones@gwynedd.gov.uk
Ffôn - 01248 600600

 

 

 

Albwm Lluniau