Canmoliaeth
Hafan > Newyddion > Canmoliaeth
"...wedi dweud hynny efallai mai’r cyngerdd mwyaf cofiadwy i lawer oedd hwnnw a gynhaliwyd gyda phlant Ysgol Gynradd Llanllechid yn theatr Pontio ar Nos Fawrth Rhagfyr 19. Roedd y theatr yn lawn o rieni, teidiau a neiniau a chyfeillion a mwyniant pur oedd gwrando ar y plant o dan arweiniad Ms Delyth Humphreys yn canu gydag arddeliad garolau Nadolig newydd ac eraill mwy cyfarwydd. Roedd derbyn gwahoddiad yr ysgol i gyd ganu mewn rhan o'r rhaglen gyda'r plant yn wefreiddiol a rhaid llongyfarch a diolch i holl staff yr ysgol am eu cyfraniad a'u hanogaeth i’r disgyblion. Cyfrannwyd at yr adloniant gan Gôr y Penrhyn a roddodd gyflwyniad o nifer o'u caneuon ac fel arfer aeth 'Tshotolosa' a 'Gwinllan a Roddwyd' i lawr yn arbennig o dda efo'r gwrandawyr."
(Gan Gôr y Penrhyn)