C Rha A
Cymdeithas Rhieni ac Athrawon
Mae cangen gref iawn o Gymdeithas Rhieni ac Athrawon yn bodoli yn yr ysgol, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o rieni gweithgar a brwdfrydig. Rydym yn ddiolchgar iawn am bob cymorth a gynigir.
Cynhelir amrywiol weithgareddau i godi arian tuag at gronfa’r ysgol yn ystod y flwyddyn ac rydym yn gwerthfawrogi’n fawr yr holl gefnogaeth mae’r ysgol yn ei dderbyn.
Yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf dyma sut mae’r arian a godwyd ac a roddwyd i’r ysgol wedi cael ei wario yn 2021/22:
Cyfanswm = £4,000
- Llyfrau - £1,000
- Offer TGCh - £1,200
- I gynorthwyo gyda taliadau teithiau addysgol - £1,000
- System PA - £800
Cyfarfodydd Cymdeithas Rhieni ac Athrawon
Anogir pawb i gymryd rhan yn y cyfarfodydd hyn - gorau po fwyaf! Croesewir unrhyw syniadau ar gyfer codi arian ac os na allwch ddod i’r cyfarfodydd, yna anfonwch eich syniadau/ sylwadau at y pwyllgor trwy’r manylion cyswllt isod.
Manylion Cyswllt Pwyllgor Cymdeithas Rhieni ac Athrawon
Cadeirydd: Ceri Evans
07796 583 203 // ceriwynevans@yahoo.co.uk
Trysorydd: James Ogwen Roberts