Newyddion Gorffennaf 2023
Hafan > Newyddion > Newyddion Gorffennaf 2023
Nosweithiau Rieni / Gwarcheidwaid
Llawer o ddiolch i bawb sydd wedi mynychu’r y nosweithiau hyn a diolch am eich sylwadau caredig a’ch gwerthfawrogiad o’r holl waith caled. Os nad ydych wedi cael cyfle i ddod i siarad hefo athro/athrawes eich plentyn, mae croeso i chi ein ffonio.
Holiaduron Rhieni/Gwarcheidwaid
Byddwn yn rhannu holiaduron hefo chi yfory. A fuasech cystal â’u dychwelyd i ni cyn diwedd y tymor, os gwelwch yn dda.
Rhieni/ Gwarcheidwaid Bl 6
Gwahoddir rhieni/gwarcheidwaid dosbarth Ms Haf i’r ysgol am 1.30pm ar ddiwrnod olaf y tymor, sef Gorffennaf 19.
Diwrnod Carnifal
Cynhelir ein diwrnod Carnifal ar Orffennaf 14eg. Mae pob dosbarth yn cynrychioli gwlad wahanol. Mae’r wybodaeth yma wedi mynd allan eisioes. Os oes problem, ffoniwch y swyddfa, os gwelwch yn dda.
Eisteddfod Llangollen
Cafodd dosbarth Mrs Tegid a Mrs Williams amser da yn Llangollen ar ddiwrnodau rhyngwladol y plant a phobl ifanc.
Caerdydd
Cafodd ein disgyblion Blwyddyn 6 amser gwerth chweil yng ymweld â Chaerdydd ym mis Mehefin. Llawer o ddiolch i Mrs Llinos Wilson, Ms Gwenlli Haf, Ms Kathryn New a Ms Elin Thomas am eu gofal o’r disgyblion. Cafwyd amser i’w gofio a phawb wedi mwynhau.
Gwasanaeth Boreol
Bu’n fraint croesawu Y Parch Sarah Roberts i’r gwasanaeth.
Taith Biwmares
Y dyddiad newydd ar gyfer taith Bl 2 a 3 i Beaumaris yw Gorffennaf 18.
Diwrnod Môr Ladron
Cynhelir diwrnod Môr Ladron i ddosbarth Mrs Bethan Jones, sef y dosbarth Derbyn, ar Orffennaf 18. Byddai’n hyfryd gweld llond dosbarth o fôr lardon y diwrnod hwn!
Gwersi Offerynnol
Mae gennym lefydd gwag ar gyfer gwersi offerynnol ym mis Medi. Gweler llythyr ar wahan. Ar ei ffordd yn fuan!
Galeri, Caernarfon
Mae Blynyddoedd 4 a 5 yn mynd i theatr Galeri Caernarfon ar Orffennaf 17.
Dyledion Cinio
Mae’r Awdurdod Addysg yn gofyn i ni glirio unrhyw ddyledion cinio/brecwast cyn diwedd y flwyddyn. Hefyd, oes modd i’r rhai ohonoch sydd ddim wedi talu am wersi offerynnol, wneud hynny yn ddi-oed, os gwelwch yn dda.